Ffair Cyllido Rhwydwaith
Gwledig Cymru 2017
Dysgwch am y cyfleoedd sydd ar gael i’ch busnes, eich cymuned, eich fferm neu fenter arall drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 a ffynonellau eraill.
Cynhelir y sioeau teithiol ar:
- 2ail Mawrth 2017 Peterson Super Ely Community Hall, Bro Morgannwg 11 - 3pm
- 8fed Mawrth 2017 Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd 11 - 3pm
- 15fed Mawrth 2017 Glasdir, Llanrwst 4 - 6pm
Siaradwch â'r arbenigwyr,gwyliwch gyflwyniadau ar y meysydd sydd o ddiddordeb i chi a dysgwch am y cymorth sydd ar gael i ddatblygu'ch syniadau, yn ogystal mi fydd na chyflwyniad pwrpasol ar y canlynol:
- Cyswllt Ffermio
- Creu Coetir Glastir
- Glastir Uwch ag Grantiau Bach Glastir
- LEADER / RCDF
Cewch help i baratoi ar gyfer y cyfnod Datgan Diddordeb nesaf ac awgrymiadau ar sut i gyflwyno cynigion am gyllid.
Nid oes angen trefnu ymlaen llaw, bydd amseroedd cyflwyniadau y Cynllun yn cael eu cyhoeddi ar y we.
|